Prynwch y CD Ah! mes amis gan Robyn Lyn Evans YMA

Dyma f’ail albwm unigol Ah! mes amis! Ceir arni tair ar ddeg o draciau sy’n adlewyrchu fy ngyrfa hyd yma, gyda thraciau heriol o repertoire y tenor lyrig a ffefrynnau mwy adnabyddus. Estynnaf fy niolch i Fflach am y gwahoddiad i recordio unwaith eto ac i Caradog Williams am ei waith campus ar y piano ac i’r soprano (a’r wraig) Aneira Evans, sy’n ymuno efo’i llais melfedaidd i ganu deuawd efo mi.

Annwyl ffrindiau,

Ymddiheuriadau am fy nhawelwch!

Dyma ni bron hanner ffordd drwy 2023 yn barod! Dechreuodd y flwyddyn gyda chyngerdd Dydd Calan Raymond Gubbay yn y Barbican, Dvorack Stabat Mater gyda Plymouth Philharmonic Choir ym mis Mawrth ac yna fy mherfformiad cyntaf fel ‘roasting swan’ yn Carmina Burana yn y Royal Festival Hall fis Ebrill. Ers hynny, dwi di bod yn brysur yn ymarfer dwy opera; Il Duca yn Rigoletto i Diva Opera a Don José yn Carmen i Scottish Opera a fydd yn fy nghadw’n brysur tan fis Medi. Yna’n hwyrach yn yr Hydref byddaf yn ail gydio yn rhan Ioan yn opera gomisiwn 2022 Shoulder to Shoulder gan Lenny Sayers mewn taith arall o amgylch Cymru gyda Swansea City Opera.

Ewch i’r dudalen Dyddiadur am yr holl fanylion.

Dilynnwch fi ar Twitter (@robynlynevans) ac ar Facebook (@robynlynevanstenor) hefyd ar gyfer y newyddion diweddaraf.

Hwyl am y tro!

Share

Newyddion diweddaraf

operatoday.com

What his Luigi lacks in charisma, he more than compensates with vocal virility, his ringing tones gloriously ardent.  David Truslove Read More

Dyddiadur 2019

Mae dyddiadur 2019 yn dechrau llenwi, gyda dyddiad yn 2020 yn barod wedi eu gadarnhau a rhai eraill cyffrous i’w cyhoeddi yn fuan. Ewch i’w gweld YMA. Read More