Ganwyd Robyn Lyn Evans ym Mhont-rhyd-y-groes, Ceredigion. Graddiodd o Goleg y Drindod Caerfyrddin, lle dyfarnwyd iddo ysgoloriaeth Stuart Burrows a hefyd o Goleg Cerdd Frenhinol, Llundain.

Biography for Robyn Lyn Welsh Tenor
(Chwith) John Beynon Photography / (De) Peter Marsh at ashmorevisuals

Cystadleuthau

Dechreuodd ei yrfa mewn eisteddfodau ledled Cymru a dros y blynyddoedd mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys Ysgoloriaeth Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Canwr Ifanc Rhyngwladol Llangollen, Gwobr Goffa Osborne Roberts, Rhuban Glas Eisteddfod Llambed, ail wobr Ysgoloriaeth Goffa W Towyn Roberts; ond yr uchafbwynt oedd ennill Gwobr Goffa David Ellis (Y Rhuban Glas) yn 2007.

Opera, Oratorio a Chyngerdd

Mae ei rôles operatig yn cynnwys Rodolfo, La Bohème (ENO, ETO & Opera Project); Don José, Carmen, Alfredo, La Traviata a Macduff, Macbeth (Scottish Opera); Lensky, Eugene Onegin (MWO); Ismaele, Nabucco, Lord Hervey, Anna Bolena a (c) Leicester, Maria Stuarda (WNO); Don Ottavio, Don Giovanni (ETO); Il Duca, Rigoletto (Longborough & Pavilion Opera); Malcolm, Macbeth a (c) Tebaldo, I Capuleti e I Montecchi (Opera North); Pinkerton, Madam Butterfly (Raymond Gubbay); Rinuccio, Gianni Schicchi a Fenton, Falstaff (Opera Project); Nemorino, L’elisir d’amore ac Alfredo, Die Fledermaus (Pavilion Opera); Gérald, Lakmé a Prince, Rusalka (Swansea City Opera); Ernesto, Don Pasquale (OPRA Cymru) a Ferrando, Cosí fan tutte (Hand Made Opera).

Fe’i clywir yn fynych ar lwyfannau cyngerdd gyda pherfformiadau di-ri o’r repertoire oratorio ac ymddangosiadau yn Neuadd Frenhinol Albert, Neuadd Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, Neuaddau Usher Caeredin a Dewi Sant Caerdydd yn ogystal â bod yn unawdydd gwadd gyda chorau ar deithiau yn Ewrop.

Radio a Theledu

Hefyd, clywir ei lais ar radio a theledu fel perfformiwr yn ogystal â sylwebydd lleisiol i radio a theledu BBC Cymru ac mae wedi rhyddhau dwy gryno ddisg unigol o’r enw ROBYN LYN…tenor a Robyn Lyn Evans Tenor Ah! mes amis.

Diweddarwyd Chwefror 2018

 

Share