Shwmai bawb!
Gobeithio fod pawb yn iawn ar ôl yr holl eira ac yn edrych ymlaen at y gwanwyn! Os oes gyda chi funud neu ddwy yn sbâr be am gymryd cipolwg ar luniau ohonof o’r cynhyrchiadau diweddaraf; Cavardossi yn Tosca i Opera Project a Lensky yn Eugene Onegin i Mid Wales Opera…sydd ar daith tan 10 Ebrill!
Hefyd, cofiwch am y dudalen dyddiadur lle mae nifer o ddyddiadau newydd wedi eu hychwanegu…gyda mwy i’w cyhoeddi yn fuan…
Dyna’r cyfan…am nawr…