operatoday.com

What his Luigi lacks in charisma, he more than compensates with vocal virility, his ringing tones gloriously ardent.  David Truslove

Share

Dyddiadur 2019

Mae dyddiadur 2019 yn dechrau llenwi, gyda dyddiad yn 2020 yn barod wedi eu gadarnhau a rhai eraill cyffrous i’w cyhoeddi yn fuan. Ewch i’w gweld YMA.

Share

Lluniau cynhyrchiadau newydd

Shwmai bawb! Gobeithio fod pawb yn iawn ar ôl yr holl eira ac yn edrych ymlaen at y gwanwyn! Os oes gyda chi funud neu ddwy yn sbâr be am gymryd cipolwg ar luniau ohonof  o’r cynhyrchiadau diweddaraf; Cavardossi yn … Read More

Share

Perfformiad cyntaf o opera cyfrwng Gymraeg newydd

Rwy’n falch o gyhoeddi y byddaf yn perfformio rhan Ifan Powel yn Wythnos, opera cyfrwng Gymraeg newydd sbon gan Gareth Glyn i OPRA Cymru. Mae Wythnos yn seiliedig ar y nofel eiconig Wythnos yng Nghymru Fydd gan Islwyn Ffowc Elis. … Read More

Share

Lensky a MWO am y tro cyntaf

Rwy’n falch o gyhoeddi y byddaf yn perfformio Lensky yng nghlasur Tchaikovsky, Eugene Onegin yn ystod Gwanwyn 2018. Hon hefyd fydd y tro cyntaf i mi gael y cyfle o weithio gyda Mid Wales Opera. Edrych ymlaen yn barod! Gweler … Read More

Share

Cavaradossi am y tro cyntaf

Byddaf yn dychwelyd i Tobacco Factory Bryste yr hydref yma i berfformio Cavardossi am y tro cyntaf o’r opera Tosca gan Puccini i Opera Project. Methu aros i’r ymarferion ddechrau! Ceir mwy o fanylion ar y dudalen Dyddiadur.

Share

Asiant newydd

Rwy’n falch i gyhoeddi fy mod wedi ymuno gydag asiantaeth gantorion newydd, sef Steven Swales Artists Management. Edrychaf ymlaen at y berthynas newydd hon. Ceir manylion llawn ar y dudalen Cysylltu.

Share

Robyn i berfformio Rodolfo

Byddaf yn perfformio Rodolfo yn La Bohème i Diva Opera eleni rhwng Mehefin a Thachwedd yn Lloegr, Ffrainc a thu hwnt. Gweler y dudalen Dyddiadur am fanylion. Methu aros😁!

Share

Robyn ar y teledu

Cofwch wylio Noson Lawen ar S4C nos Sadwrn 28ain o Ionawr i glywed cân neopolitanaidd a deuawd!

Share

Ah! mes amis ar iTunes

Mae’r albwm newydd Ah! mes amis nawr ar gael i’w lawrlwytho ar iTunes…neu lawrlwythwch ‘mond y traciau rydych eu hangen! Onid yw technoleg yn grêt?😉

Share
1 2